1 Haleliwia!Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd!Molwch e o'r uchder!
2 Molwch e, ei holl angylion!Molwch e, ei holl fyddinoedd!
3 Molwch e, haul a lleuad!Molwch e, yr holl sêr!
4 Molwch e, y nefoedd uchod,a'r dŵr sydd uwchben y nefoedd!
5 Boed iddyn nhw foli enw'r ARGLWYDD,am mai fe orchymynodd iddyn nhw gael eu creu.
6 Fe roddodd nhw yn eu lle am byth bythoedd,a gosod trefn fydd byth yn newid.
7 Molwch yr ARGLWYDD, chi sydd ar y ddaear,a'r holl forfilod mawr yn y môr dwfn.
8 Y mellt a'r cenllysg, yr eira a'r niwl,a'r gwynt stormus sy'n ufudd iddo.
9 Y mynyddoedd a'r bryniau i gyd,y coed ffrwythau a'r coed cedrwydd;
10 pob anifail gwyllt a dof,ymlusgiaid ac adar.
11 Yr holl frenhinoedd a'r gwahanol bobloedd,yr arweinwyr a'r barnwyr i gyd;
12 bechgyn a merchedhen ac ifanc gyda'i gilydd
13 Boed iddyn nhw foli enw'r ARGLWYDD!Mae ei enw e yn uwch na'r cwbl;Mae ei ysblander yn gorchuddio'r nefoedd a'r ddaear!
14 Mae wedi rhoi buddugoliaeth i'w bobl,ac enw da i bawb sydd wedi profi ei gariad ffyddlon,sef Israel, y bobl sy'n agos ato.Haleliwia!