1 Help, ARGLWYDD!Does neb ffyddlon ar ôl!Mae'r rhai sy'n driw wedi diflannu.
2 Mae pawb yn dweud celwydd wrth ei gilydd;maen nhw'n seboni ond yn ddauwynebog.
3 Boed i'r ARGLWYDD roi stop ar eu geiriau ffals,a rhoi taw ar bob tafod sy'n brolio!
4 “Gallwn wneud unrhyw beth!” medden nhw.“Gallwn ddweud beth leiciwn ni!Dŷn ni'n atebol i neb!”
5 Ond meddai'r ARGLWYDD:“Am fod yr anghenus yn dioddef trais,a'r tlawd yn griddfan mewn poen,dw i'n mynd i weithredu.Bydda i'n ei gadw'n saff;ie, dyna mae'n dyheu amdano.”
6 Mae geiriau'r ARGLWYDD yn wir.Maen nhw fel arian wedi ei buro mewn ffwrnais bridd,neu aur wedi ei goethi'n drwyadl.
7 Byddi'n gofalu amdanon ni, ARGLWYDD,Byddwn ni'n saff o afael y genhedlaeth ddrwg yma
8 sy'n cerdded o gwmpas yn falch,a phobl yn canmol y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud!