Salm 105 BNET

Duw a'i bobl

1 Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw!Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud.

2 Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli!Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.

3 Broliwch ei enw sanctaidd!Boed i bawb sy'n ceisio'r ARGLWYDD ddathlu.

4 Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth;ceisiwch ei gwmni bob amser.

5 Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth –ei wyrthiau, a'r cwbl y gwnaeth ei farnu!

6 Ie, chi blant ei was Abraham;plant Jacob mae wedi eu dewis.

7 Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e;yr un sy'n barnu'r ddaear gyfan.

8 Mae e'n cofio ei ymrwymiad bob amser,a'i addewid am fil o genedlaethau –

9 yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham,a'r addewid wnaeth ar lw i Isaac.

10 Yna ei gadarnhau yn rheol i Jacob –ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth!

11 “Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi” meddai,“yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.”

12 Dim ond criw bach ohonyn nhw oedd –rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro,

13 ac yn crwydro o un wlad i'r llall,ac o un deyrnas i'r llall.

14 Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw;roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw:

15 “Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i;peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.”

16 Ond wedyn daeth newyn ar y wlad;cymerodd eu bwyd oddi arnyn nhw.

17 Ond roedd wedi anfon un o'u blaenau,sef Joseff, gafodd ei werthu fel caethwas.

18 Roedd ei draed mewn cyffion;roedd coler haearn am ei wddf,

19 nes i'w eiriau ddod yn wirac i neges yr ARGLWYDD ei brofi'n iawn.

20 Dyma'r brenin yn ei ryddhau o'r carchar;llywodraethwr y cenhedloedd yn ei ollwng yn rhydd.

21 Gwnaeth e'n gyfrifol am ei balas,a rhoi iddo'r awdurdod i reoli popeth oedd ganddo.

22 Disgyblu'r arweinwyr eraill fel y mynnai,a dysgu doethineb i'r cynghorwyr hŷn.

23 Yna dyma Israel yn symud i'r Aifft;aeth Jacob i fyw dros dro yn nhir Cham.

24 Gwnaeth Duw i'w bobl gael llawer o blant,llawer mwy na'i gelynion nhw.

25 Dechreuodd y gelynion gasáu ei bobl,a cham-drin ei weision.

26 Wedyn dyma Duw yn anfon ei was Moses,ac Aaron, yr un oedd wedi ei ddewis.

27 Dyma nhw'n dweud am yr arwyddion gwyrthiolroedd Duw yn mynd i'w gwneud yn nhir Cham:

28 Anfon tywyllwch, ac roedd hi'n dywyll iawn!Wnaethon nhw ddim herio beth ddwedodd.

29 Troi eu dŵr nhw yn waednes i'r pysgod i gyd farw.

30 Llenwi'r wlad hefo llyffaint –hyd yn oed y palasau brenhinol.

31 Rhoddodd orchymyn, a daeth haid o bryfed –gwybed drwy'r tir ym mhobman.

32 Anfonodd stormydd cenllysg yn lle glaw,a mellt drwy'r wlad i gyd.

33 Taro eu gwinwydd a'u coed ffigys,a bwrw coed i lawr drwy'r wlad.

34 Gorchymyn anfon locustiaid –llawer iawn gormod ohonyn nhw i'w cyfri.

35 Roedden nhw'n difetha'r planhigion i gyd,ac yn bwyta popeth oedd yn tyfu ar y tir!

36 Yna lladd plentyn hynaf pob teulu drwy'r wlad –ffrwyth cyntaf eu cyfathrach.

37 Daeth ag Israel allan yn cario arian ac aur!Doedd neb drwy'r llwythau i gyd yn baglu.

38 Roedd pobl yr Aifft mor falch pan aethon nhw,achos roedd Israel wedi codi dychryn arnyn nhw.

39 Wedyn rhoddodd Duw gwmwl i'w cysgodi,a tân i roi golau yn y nos.

40 Dyma nhw'n gofyn am fwyd, a dyma soflieir yn dod;rhoddodd ddigonedd o fwyd iddyn nhw o'r awyr.

41 Holltodd graig, nes bod dŵr yn pistyllio allan ohoni;roedd yn llifo fel afon drwy dir sych.

42 Oedd, roedd Duw'n cofio'r addewid cysegredigoedd wedi ei wneud i'w was Abraham.

43 Daeth â'i bobl allan yn dathlu!Roedd y rhai wedi eu dewis ganddo'n bloeddio canu.

44 Rhoddodd dir y cenhedloedd iddyn nhw;cawson nhw fwynhau ffrwyth llafur pobl eraill.

45 Gwnaeth hyn er mwyn iddyn nhw gadw ei reolaua bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth.Haleliwia!