1 Mae'r un sy'n garedig at y tlawd wedi ei fendithio'n fawr.Bydd yr ARGLWYDD yn ei gadw'n saff pan mae mewn perygl.
2 Bydd yr ARGLWYDD yn ei amddiffyn ac yn achub ei fywyd,A bydd yn profi bendith yn y tir.Fydd e ddim yn gadael i'w elynion gael eu ffordd.
3 Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal pan fydd yn sâl yn ei wely,ac yn ei iacháu yn llwyr o'i afiechyd.
4 “O ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i,” meddwn i.“Iachâ fi. Dw i'n cyfaddef mod i wedi pechu yn dy erbyn di.”
5 Mae fy ngelynion yn dweud pethau cas amdana i,“Pryd mae'n mynd i farw a chael ei anghofio?”
6 Mae rhywun yn ymweld â mi, ac yn cymryd arno ei fod yn ffrind;ond ei fwriad ydy gwneud drwg i mi,ac ar ôl mynd allan, mae'n lladd arna i.
7 Mae fy ngelynion yn sibrwd amdana i ymhlith ei gilydd,ac yn cynllwynio i wneud niwed i mi.
8 “Mae'n diodde o afiechyd ofnadwy;fydd e ddim yn codi o'i wely byth eto.”
9 Mae hyd yn oed fy ffrind agos– yr un roeddwn i'n ei drystio,yr un fu'n bwyta wrth fy mwrdd i –wedi troi yn fy erbyn i!
10 Felly, O ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i;gad i mi godi eto, i mi gael talu'n ôl iddyn nhw!
11 Ond dw i'n gwybod fy mod i'n dy blesio di:a fydd y gelyn ddim yn bloeddio ei fod wedi ennill y fuddugoliaeth.
12 Rwyt ti'n fy nghynnal i am fy mod i'n onest gyda ti.Dw i'n cael aros yn dy gwmni di am byth.
13 Ie, bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel,o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb!Amen ac Amen.