Salm 68 BNET

Duw sy'n ennill y frwydr!

I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. Cân.

1 Pan mae Duw yn codi,mae'r gelynion yn cael eu gwasgaru;mae'r rhai sydd yn ei erbyn yn dianc oddi wrtho.

2 Chwytha nhw i ffwrdd, fel mwg yn cael ei chwythu gan y gwynt!Bydd pobl ddrwg yn cael eu difa gan Dduw,fel cwyr yn cael ei doddi gan dân.

3 Ond bydd y rhai cyfiawn yn dathlu,ac yn gorfoleddu o flaen Duw;byddan nhw wrth eu boddau!

4 Canwch i Dduw! Canwch gân o fawl iddo,a chanmol yr un sy'n marchogaeth y cymylau!Yr ARGLWYDD ydy ei enw!Dewch i ddathlu o'i flaen!

5 Tad plant amddifad, yr un sy'n amddiffyn gweddwon,ie, Duw yn ei gysegr.

6 Mae Duw yn rhoi'r digartref mewn teulu,ac yn gollwng caethion yn rhydd i sain cerddoriaeth.Ond bydd y rhai sy'n gwrthryfela yn byw mewn anialwch.

7 O Dduw, pan oeddet ti'n arwain dy bobl allan,ac yn martsio ar draws yr anialwch, Saib

8 dyma'r ddaear yn crynu, a'r awyr yn arllwys y glawo flaen Duw, yr un oedd ar Sinai,o flaen Duw, sef Duw Israel.

9 Rhoist ddigonedd o law i'r tir, O Dduw,ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd yn gwywo.

10 Dyna ble mae dy bobl yn byw.Buost yn dda, a rhoi yn hael i'r anghenus, O Dduw.

11 Mae'r ARGLWYDD yn dweud y gair,ac mae tyrfa o ferched yn cyhoeddi'r newyddion da:

12 Mae'r brenhinoedd a'u byddinoedd yn ffoi ar frys,a gwragedd tŷ yn rhannu'r ysbail.

13 “Er dy fod wedi aros adre rhwng y corlannau,dyma i ti adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag ariana blaenau'r adenydd yn aur melyn coeth.”

14 Pan oedd y Duw Hollalluog yn gwasgaru'r brenhinoedd,roedd fel petai storm eira yn chwythu ar Fynydd Salmon!

15 O fynydd anferth, mynydd Bashan;O fynydd y copaon uchel, mynydd Bashan;

16 O fynydd y copaon uchel, pam wyt ti mor genfigennuso'r mynydd mae Duw wedi ei ddewis i fyw arno?Dyna ble bydd yr ARGLWYDD yn aros am byth!

17 Mae gan Dduw ddegau o filoedd o gerbydau,a miloedd ar filoedd o filwyr.Mae'r ARGLWYDD gyda nhw;mae Duw Sinai wedi dod i'w gysegr!

18 Ti wedi mynd i fyny i'r ucheldir,ac arwain caethion ar dy ôl,a derbyn rhoddion gan bobl –hyd yn oed gan y rhai oedd yn gwrthwynebui ti aros yno, ARGLWYDD Dduw.

19 Mae'r ARGLWYDD yn Dduw bendigedig!Mae e'n edrych ar ein holau ni o ddydd i ddydd.Duw ydy'n hachubwr ni! Saib

20 Ein Duw ni ydy'r Duw sy'n achub!Gyda'r ARGLWYDD, ein Meistr, gallwn ddianc rhag marwolaeth.

21 Fe ydy'r Duw sy'n taro pennau ei elynion –pob copa walltog sy'n euog o'i flaen.

22 Dwedodd yr ARGLWYDD,“Bydda i'n dod a'r gelynion yn ôl o Bashan,ie, hyd yn oed yn ôl o waelod y môr!

23 Byddi'n trochi dy draed yn eu gwaed,a bydd tafodau dy gŵn yn cael eu siâr o'r cyrff.”

24 Mae pobl yn gweld dy orymdaith, O Dduw,yr orymdaith pan mae fy Nuw, fy mrenin,yn mynd i'r cysegr.

25 Y cantorion ar y blaen, yna'r offerynnwryng nghanol y merched ifanc sy'n taro'r tambwrîn.

26 “Bendithiwch Dduw yn y gynulleidfa fawr!Bendithiwch yr ARGLWYDD,bawb sy'n tarddu o ffynnon Israel.”

27 Dacw Benjamin, yr ifancaf, yn arwain;penaethiaid Jwda yn dyrfa swnllyd;penaethiaid Sabulon a Nafftali.

28 Mae dy Dduw yn dy wneud di'n gryf!O Dduw, sydd wedi gweithredu ar ein rhan, dangos dy rym

29 wrth ddod o dy deml yn Jerwsalem.Boed i frenhinoedd dalu teyrnged i ti!

30 Cerydda fwystfil y corsydd brwyn,y gyr o deirw a'r bobl sy'n eu dilyn fel lloi!Gwna iddyn nhw blygu o dy flaen a rhoi arian i ti'n rhodd.Ti'n gyrru'r bobloedd sy'n mwynhau rhyfel ar chwâl!

31 Bydd llysgenhadon yn dod o'r Aifft,a bydd pobl Affrica yn brysio i dalu teyrnged i Dduw.

32 Canwch i Dduw, chi wledydd y byd!Canwch fawl i'r ARGLWYDD. Saib

33 I'r un sy'n marchogaeth drwy'r awyr –yr awyr sydd yno o'r dechrau.Gwrandwch! Mae ei lais nerthol yn taranu.

34 Cyfaddefwch mor rymus ydy Duw!Mae e'n teyrnasu yn ei holl ysblander dros Israel,ac yn dangos ei rym yn yr awyr.

35 O Dduw, rwyt ti'n syfrdanol yn dod allan o dy gysegr!Ie, Duw Israel sy'n rhoi grym a nerth i'w bobl.Boed i Dduw gael ei anrhydeddu!