1 Gwrandwch ar hyn, chi'r bobloedd;clywch, bawb drwy'r byd i gyd –
2 pobl o bob cefndiryn gyfoethog ac yn dlawd.
3 Dw i'n mynd i rannu doethineb gyda chi,a dweud pethau dwfn.
4 Dw i'n mynd i ddysgu cân am ddoethineb,a'i chanu i gyfeiliant y delyn.
5 Pam ddylwn i ofni'r amserau anoddpan mae drygioni'r rhai sy'n twyllo yn fy mygwth?
6 Maen nhw'n dibynnu ar eu cyfoeth,ac yn brolio'r holl bethau sydd ganddyn nhw.
7 Ond all dyn ddim ei ryddhau ei hun,na thalu i Dduw i'w ollwng yn rhydd!
8 (Mae pris bywyd yn rhy uchel;waeth iddo adael y mater am byth!)
9 Ydy e'n mynd i allu byw am byth,a pheidio gweld y bedd?
10 Na, mae hyd yn oed pobl ddoeth yn marw!Mae bywyd ffyliaid gwyllt yn dod i ben,ac maen nhw'n gadael eu cyfoeth i eraill.
11 Maen nhw'n aros yn eu beddau am byth;byddan nhw yno ar hyd y cenedlaethau.Mae pobl gyfoethog yn enwi tiroedd ar eu holau,
12 ond dydyn nhw eu hunain ddim yn aros.Maen nhw, fel yr anifeiliaid, yn marw.
13 Dyna ydy tynged y rhai ffôl,a diwedd pawb sy'n dilyn eu syniadau. Saib
14 Maen nhw'n cael eu gyrru i Annwn fel defaid;a marwolaeth yn eu bugeilio nhw.Bydd y duwiol yn teyrnasu drostyn nhw pan ddaw'r wawr.Bydd y bedd yn llyncu eu cyrff;fyddan nhw ddim yn byw yn eu tai crand ddim mwy.
15 Ond bydd Duw yn achub fy mywyd i o grafangau'r bedd;bydd e'n dal gafael ynof fi! Saib
16 Paid poeni pan mae dyn yn dod yn gyfoethog,ac yn ennill mwy a mwy o eiddo.
17 Pan fydd e'n marw fydd e'n cymryd dim gydag e!Fydd ei gyfoeth ddim yn ei ddilyn i lawr i'r bedd!
18 Gall longyfarch ei hun yn ystod ei fywyd– “Mae pobl yn fy edmygu i am wneud mor dda” –
19 Ond bydd yntau'n mynd at ei hynafiaid,a fyddan nhw byth yn gweld golau ddydd eto.
20 Dydy pobl gyfoethog ddim yn deall;maen nhw, fel anifeiliaid, yn marw.