1 Mae ei sylfeini ar y mynyddoedd sanctaidd!
2 Mae'r ARGLWYDD yn caru dinas Seionfwy nag unrhyw fan arall yn nhir Jacob.
3 Mae pethau hyfryd yn cael eu dweud amdanat ti,O ddinas Duw. Saib
4 Wrth sôn am yr Aifft a Babilon wrth y rhai sy'n fy nabod i– Philistia, Tyrus, a dwyrain Affrica hefyd –dywedir, “Cafodd hwn a hwn ei eni yno.”
5 A dyma fydd yn cael ei ddweud am Seion:“Cafodd pob un o'r rhain eu geni yno!Mae'r Duw Goruchaf ei hun yn ei gwneud hi'n ddiogel!”
6 Bydd yr ARGLWYDD yn cofrestru'r cenhedloedd:“Cafodd hwn a hwn ei eni yno.” Saib
7 Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud amdani:“Mae ffynhonnell pob bendith ynot ti!”