1 Gwranda arna i'n galw, O Dduw.Gwranda ar fy ngweddi.
2 Dw i'n galw arnat ti o ben draw'r byd.Pan dw i'n anobeithio,arwain fi at graig uchel ddiogel.
3 Achos rwyt ti'n le saff i mi fynd;yn gaer gref lle all fy ngelynion ddim dod.
4 Gad i mi aros yn dy babell am byth,yn saff dan gysgod dy adenydd. Saib
5 O Dduw, clywaist yr addewidion wnes i;ti wedi rhoi etifeddiaeth i mi gyda'r rhai sy'n dy addoli.
6 Gad i'r brenin fyw am flynyddoedd eto!Gad iddo fyw am genedlaethau lawer,
7 ac eistedd ar yr orsedd o flaen Duw am byth!Gwylia drosto gyda dy gariad a dy ofal ffyddlon.
8 Yna byddaf yn canu mawl i dy enw am byth,wrth i mi gadw fy addewidion i ti bob dydd.