Salm 51 BNET

Gweddi am faddeuant

I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd, ar ôl i'r proffwyd Nathan fynd ato a'i geryddu am gysgu gyda Bathseba.

1 O Dduw, dangos drugaredd ata i;rwyt ti mor llawn cariad.Gan dy fod ti mor barod i dosturio,wnei di ddileu y gwrthryfel oedd yno i?

2 Golcha'r drygioni ohono i'n llwyr,a pura fi o'm pechod.

3 Dw i'n cyfaddef mod i wedi tynnu'n groes,a dw i'n ymwybodol iawn o'm methiant.

4 Yn dy erbyn di dw i wedi pechu, ie, dim ond ti,a gwneud beth sy'n ddrwg yn dy olwg.Mae beth rwyt ti'n ddweud yn hollol deg,ac rwyt ti'n iawn i'm cosbi i.

5 Y gwir ydy, ces fy ngeni'n bechadur;roedd y pechod yno pan wnaeth mam feichiogi arna i.

6 Ond rwyt ti eisiau gonestrwydd y tu mewn;rwyt ti eisiau i mi fod yn ddoeth.

7 Pura fi ag isop, i'm gwneud yn hollol lân;golcha fi, nes bydda i'n lanach nag eira.

8 Gad i mi wybod beth ydy bod yn hapus eto;rwyt ti wedi malu fy esgyrn – gad i mi lawenhau eto.

9 Paid edrych ar fy mhechodau i;dilea'r drygioni i gyd.

10 Crea galon lân yno i, O Dduw;a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto.

11 Paid taflu fi i ffwrdd oddi wrthot ti,na chymryd dy Ysbryd Glân oddi arna i.

12 Gad i mi brofi'r wefr eto o gael fy achub gen ti;a gwna fi'n awyddus i fod yn ufudd i ti.

13 Wedyn bydda i'n dysgu'r rhai sy'n gwrthryfela i dy ddilyn di,a bydd pechaduriaid yn troi atat ti.

14 Maddau i mi am fod wedi tywallt gwaed, O Dduw.Ti ydy'r Duw sy'n fy achub i,a bydda i'n canu am dy faddeuant di.

15 O ARGLWYDD, agor fy ngeg,i mi gael dy foli.

16 Nid aberthau sy'n dy blesio di;a dydy offrwm i'w losgi ddim yn dy fodloni di.

17 Yr aberthau wyt ti eisiau ydy ysbryd wedi ei ddryllio,calon wedi ei thorri, ac ysbryd sy'n edifar –Wnei di ddim diystyru peth felly, O Dduw.

18 Gwna i Seion lwyddo! Helpa hi!Adeilada waliau Jerwsalem unwaith eto!

19 Wedyn bydd aberthau sy'n cael eu cyflwyno'n iawn,ac offrymau cyflawn i'w llosgi, yn dy blesio di;a bydd teirw yn cael eu hoffrymu ar dy allor di.