1 Haleliwia!Mola'r ARGLWYDD, meddwn i wrthof fy hun!
2 Dw i'n mynd i foli'r ARGLWYDD ar hyd fy mywyd,a chanu mawl i'm Duw tra dw i'n bodoli!
3 Paid trystio'r rhai sy'n teyrnasu –dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub.
4 Mae'r anadl yn mynd allan ohono,ac mae'n mynd yn ôl i'r pridd;a'r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!
5 Mae'r un mae Duw Jacob yn ei helpu wedi ei fendithio'n fawr,Yr un sy'n dibynnu ar yr ARGLWYDD ei Dduw,
6 y Duw a wnaeth y nefoedd, y ddaear,y môr a phopeth sydd ynddyn nhw.Mae e bob amser yn cadw ei air,
7 yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu,a bwyd i'r rhai newynog.Mae'r ARGLWYDD yn gollwng carcharorion yn rhydd.
8 Mae'r ARGLWYDD yn rhoi eu golwg i bobl ddall.Mae'r ARGLWYDD yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.Mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.
9 Mae'r ARGLWYDD yn gofalu am y mewnfudwyrac yn cynnal y plant amddifad a'r gweddwon.Ond mae e'n gwneud i'r rhai drwg golli eu ffordd.
10 Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu am byth;dy Dduw di, Seion, ar hyd y cenedlaethau.Haleliwia!