1 Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu!Gall y ddaear ddathlu,a'r ynysoedd i gyd lawenhau!
2 Mae cwmwl trwchus o'i gwmpas;a'i orsedd wedi ei sylfaenu ar degwch a chyfiawnder.
3 Mae tân yn mynd allan o'i flaen,ac yn llosgi ei elynion ym mhobman.
4 Mae ei fellt yn goleuo'r byd;a'r ddaear yn gwingo wrth ei weld.
5 Mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD,o flaen Meistr y ddaear gyfan.
6 Mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn,a'r bobloedd i gyd yn gweld ei ysblander.
7 Mae'r rhai sy'n addoli eilun-dduwiau yn cywilyddio –y rhai oedd mor falch o'u delwau diwerth.Mae'r ‛duwiau‛ i gyd yn plygu o'i flaen.
8 Roedd Seion yn hapus pan glywodd hyn,ac roedd pentrefi Jwda'n dathluam dy fod ti'n barnu'n deg, O ARGLWYDD.
9 Achos rwyt ti, ARGLWYDD, yn Dduw dros yr holl fyd;rwyt ti'n llawer gwell na'r holl ‛dduwiau‛ eraill i gyd.
10 Mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni.Mae e'n amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo,ac yn eu hachub nhw o afael pobl ddrwg.
11 Mae golau'n disgleirio ar y rhai sy'n byw'n gywir,a llawenydd ar y rhai sy'n onest.
12 Chi rai cyfiawn, byddwch yn llawen yn yr ARGLWYDD,a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!