1 Canwch yn llawen i Dduw, ein nerth!Gwaeddwch yn uchel ar Dduw Jacob!
2 Canwch gân, taro'r drwm,a chanu'r delyn fwyn a'r nabl!
3 Seiniwch y corn hwrdd ar y lleuad newydd,ar ddechrau'r Ŵyl pan mae'r lleuad yn llawn.
4 Dyma'r drefn yn Israel;gorchymyn wedi ei roi gan Dduw Jacob.
5 Rhoddodd hi'n rheol i bobl Joseffpan ymosododd ar yr Aifft i'w gollwng yn rhydd.Dw i'n clywed iaith dw i ddim yn ei deall –
6 “Cymerais y baich oddi ar dy ysgwyddau,a dy ollwng yn rhydd o orfod cario'r fasged.
7 Dyma ti'n gweiddi yn dy argyfwng, a dyma fi'n dy achub;atebais di o'r lle dirgel ble mae'r taranau.Yna dy roi ar brawf wrth Ffynnon Meriba. Saib
8 Gwrandwch, fy mhobl, dw i'n eich rhybuddio chi!O na fyddet ti'n gwrando arna i, Israel!
9 Dwyt ti ddim i gael duw arallna phlygu i lawr i addoli duw estron.
10 Fi, yr ARGLWYDD ydy dy Dduw di.Fi ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft.Agor dy geg, a bydda i'n dy fwydo!
11 Ond wnaeth fy mhobl ddim gwrando.Wnaeth Israel ddim ufuddhau i mi;
12 felly dyma fi'n gadael iddyn nhw fod yn ystyfniga gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau.
13 O na fyddai fy mhobl yn gwrando arna i!O na fyddai Israel yn fy nilyn i!
14 Byddwn i'n trechu eu gelynion nhw yn syth;ac yn ymosod ar y rhai sy'n eu gwrthwynebu nhw.”
15 (Boed i'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD wingo o'i flaen –dyna eu tynged nhw am byth!)
16 “Byddwn i'n bwydo Israel â'r ŷd gorau;ac yn dy fodloni gyda mêl o'r graig.”