1 O ARGLWYDD, pam wyt ti'n cadw draw?Pam wyt ti'n aros o'r golwg pan mae pethau'n anodd arna i?
2 Mae'r rhai drwg mor hy! Maen nhw'n hela'r tlawd –gwna iddyn nhw gael eu dal gan eu dyfais eu hunain!
3 Mae'r un drwg yn brolio ei fod yn cael ei ffordd ei hun;a'r lleidr yn melltithio a dirmygu'r ARGLWYDD.
4 Mae'r un drwg mor falch, yn swancioac yn dweud wrth ddirmygu'r ARGLWYDD:“Dydy e ddim yn galw neb i gyfri;Dydy Duw ddim yn bodoli!”
5 Ydy, mae'n meddwl y bydd e'n llwyddo bob amser.Dydy e'n gwybod dim am dy safonau di;ac mae'n wfftio pawb sy'n ei wrthwynebu.
6 Mae'n meddwl wrtho'i hun, “Dw i'n hollol saff.Mae popeth yn iawn! Fydda i byth mewn trafferthion.”
7 Mae e mor gegog! – yn llawn melltith a thwyll a gormes;a'i dafod yn gwneud dim ond drwg ac achosi trafferthion!