1 Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder.Canaf gân i ti, O ARGLWYDD!
2 Canaf delyneg am dy ffordd berffaith.Pryd wyt ti'n mynd i ddod ata i?Dw i wedi byw bywyd didwyll yn y palas.
3 Dw i ddim am ystyried bod yn anonest;dw i'n casáu twyll,ac am gael dim i'w wneud â'r peth.
4 Does gen i ddim meddwl mochaidd,a dw i am gael dim i'w wneud â'r drwg.
5 Dw i'n rhoi taw ar bwy bynnag sy'n enllibio'i gymydog yn y dirgel.Alla i ddim diodde pobl falch sy'n llawn ohonyn nhw eu hunain.