1 O ARGLWYDD, clyw fy ngweddi;gwrando arna i'n gweiddi am help.
2 Paid troi cefn arna ipan dw i mewn trafferthion.Gwranda arna i!Rho ateb buan i mi pan dw i'n galw.
3 Mae fy mywyd i'n diflannu fel mwg,ac mae fy esgyrn yn llosgi fel marwor poeth.
4 Dw i mor ddigalon, ac yn gwywo fel glaswellt.Dw i ddim yn teimlo fel bwyta hyd yn oed.
5 Dw i ddim yn stopio tuchan;mae fy esgyrn i'w gweld drwy fy nghroen.