10 am dy fod ti'n ddig ac wedi gwylltio hefo fi.Rwyt ti wedi gafael yno i, a'm taflu i ffwrdd fel baw!
11 Mae fy mywyd fel cysgod ar ddiwedd y dydd;dw i'n gwywo fel glaswellt.
12 Ond byddi di, ARGLWYDD, ar dy orsedd am byth!Mae pobl yn galw ar dy enw ar hyd y cenedlaethau!
13 Byddi di yn codi ac yn dangos trugaredd at Seion eto.Mae'n bryd i ti fod yn garedig ati!Mae'r amser i wneud hynny wedi dod.
14 Mae dy weision yn caru ei meini,ac yn teimlo i'r byw wrth weld y rwbel!
15 Wedyn bydd y cenhedloedd yn parchu enw'r ARGLWYDD.Bydd brenhinoedd y byd i gyd yn ofni ei ysblander.
16 Bydd yr ARGLWYDD yn ailadeiladu Seion!Bydd yn cael ei weld yn ei holl ysblander.