16 Bydd yr ARGLWYDD yn ailadeiladu Seion!Bydd yn cael ei weld yn ei holl ysblander.
17 Achos mae e'n gwrando ar weddi y rhai sydd mewn angen;dydy e ddim yn diystyru eu cri nhw.
18 Dylai hyn gael ei ysgrifennu i lawr ar gyfer y dyfodol,er mwyn i bobl sydd heb gael eu geni eto, foli'r ARGLWYDD.
19 Bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr o'i gysegr uchel iawn,Bydd yn edrych i lawr ar y ddaear o'r nefoedd uchod,
20 ac yn gwrando ar riddfan y rhai oedd yn gaeth.Bydd yn rhyddhau y rhai oedd wedi eu condemnio i farwolaeth.
21 Wedyn bydd enw'r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddi o Seion,a bydd e'n cael ei addoli yn Jerwsalem.
22 Bydd pobl o'r gwledydd i gydyn dod at ei gilydd i addoli'r ARGLWYDD.