18 Dylai hyn gael ei ysgrifennu i lawr ar gyfer y dyfodol,er mwyn i bobl sydd heb gael eu geni eto, foli'r ARGLWYDD.
19 Bydd yr ARGLWYDD yn edrych i lawr o'i gysegr uchel iawn,Bydd yn edrych i lawr ar y ddaear o'r nefoedd uchod,
20 ac yn gwrando ar riddfan y rhai oedd yn gaeth.Bydd yn rhyddhau y rhai oedd wedi eu condemnio i farwolaeth.
21 Wedyn bydd enw'r ARGLWYDD yn cael ei gyhoeddi o Seion,a bydd e'n cael ei addoli yn Jerwsalem.
22 Bydd pobl o'r gwledydd i gydyn dod at ei gilydd i addoli'r ARGLWYDD.
23 Mae wedi ysigo fy nerth i ar ganol y daith,Mae wedi penderfynu rhoi bywyd byr i mi.
24 “O Dduw, paid cymryd fihanner ffordd drwy fy mywyd! –Rwyt ti'n aros ar hyd y cenedlaethau.