24 “O Dduw, paid cymryd fihanner ffordd drwy fy mywyd! –Rwyt ti'n aros ar hyd y cenedlaethau.
25 Ti osododd y ddaear yn ei lle ers talwm;a gwaith dy ddwylo di ydy'r sêr a'r planedau.
26 Byddan nhw'n darfod, ond rwyt ti'n aros.Byddan nhw'n mynd yn hen fel dillad wedi eu gwisgo.Byddi di'n eu tynnu fel dilledyn, a byddan nhw wedi mynd.
27 Ond rwyt ti yn aros am byth –dwyt ti byth yn mynd yn hen!
28 Bydd plant dy weision yn dal i gael byw yma,a bydd eu plant nhw yn saff yn dy bresenoldeb di.”