3 Mae fy mywyd i'n diflannu fel mwg,ac mae fy esgyrn yn llosgi fel marwor poeth.
4 Dw i mor ddigalon, ac yn gwywo fel glaswellt.Dw i ddim yn teimlo fel bwyta hyd yn oed.
5 Dw i ddim yn stopio tuchan;mae fy esgyrn i'w gweld drwy fy nghroen.
6 Dw i fel jac-y-do yn yr anialwch;fel tylluan yng nghanol adfeilion.
7 Dw i'n methu cysgu.Dw i fel aderyn unig ar ben tŷ.
8 Mae fy ngelynion yn fy enllibio drwy'r dydd;maen nhw'n fy rhegi ac yn gwneud sbort ar fy mhen.
9 Lludw ydy'r unig fwyd sydd gen i,ac mae fy niod wedi ei gymysgu â dagrau,