7 Dw i'n methu cysgu.Dw i fel aderyn unig ar ben tŷ.
8 Mae fy ngelynion yn fy enllibio drwy'r dydd;maen nhw'n fy rhegi ac yn gwneud sbort ar fy mhen.
9 Lludw ydy'r unig fwyd sydd gen i,ac mae fy niod wedi ei gymysgu â dagrau,
10 am dy fod ti'n ddig ac wedi gwylltio hefo fi.Rwyt ti wedi gafael yno i, a'm taflu i ffwrdd fel baw!
11 Mae fy mywyd fel cysgod ar ddiwedd y dydd;dw i'n gwywo fel glaswellt.
12 Ond byddi di, ARGLWYDD, ar dy orsedd am byth!Mae pobl yn galw ar dy enw ar hyd y cenedlaethau!
13 Byddi di yn codi ac yn dangos trugaredd at Seion eto.Mae'n bryd i ti fod yn garedig ati!Mae'r amser i wneud hynny wedi dod.