11 Fel mae'r nefoedd yn uchel uwch y ddaear,mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy'n ei barchu.
12 Mor bell ac ydy'r dwyrain o'r gorllewin,mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.
13 Fel mae tad yn caru ei blant,mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n ei barchu.
14 Ydy, mae e'n gwybod am ein defnydd ni;mae'n cofio mai dim ond pridd ydyn ni.
15 Mae bywyd dynol fel glaswellt –mae fel blodyn gwyllt, yn tyfu dros dro;
16 pan mae'r gwynt yn dod heibio, mae wedi mynd;ble roedd does dim sôn amdano.
17 Ond mae cariad yr ARGLWYDD at y rhai sy'n ei barchuyn para am byth bythoedd!Mae e'n cadw ei air i genedlaethau o blant –