17 Ond mae cariad yr ARGLWYDD at y rhai sy'n ei barchuyn para am byth bythoedd!Mae e'n cadw ei air i genedlaethau o blant –
18 sef y rhai sy'n ffyddlon i'w ymrwymiad,ac sy'n gofalu gwneud beth mae e'n ddweud.
19 Mae'r ARGLWYDD wedi sefydlu ei orsedd yn y nefoedd,ac mae'n teyrnasu yn frenin dros bopeth!
20 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion! –chi rai cryfion sy'n gwneud beth mae'n ddweudsy'n gwrando ac yn ufudd iddo.
21 Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl fyddinoedd! –chi weision sy'n ei wasanaethu;
22 Bendithiwch yr ARGLWYDD, bopeth mae wedi ei greu! –ym mhobman ble mae e'n teyrnasu.Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD!