4 Mae wedi dy gadw di rhag mynd i'r bedd,ac wedi dy goroni gyda'i gariad a'i drugaredd.
5 Mae wedi rhoi mwy na digon o bethau da i ti,nes gwneud i ti deimlo'n ifanc eto,yn gryf ac yn llawn bywyd fel eryr!
6 Mae'r ARGLWYDD bob amser yn deg,ac yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu.
7 Dwedodd wrth Moses sut oedd e am i ni fyw,a dangosodd i bobl Israel beth allai ei wneud.
8 Mae'r ARGLWYDD mor drugarog a charedig;mor amyneddgar ac anhygoel o hael!
9 Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd,nac yn dal dig am byth.
10 Wnaeth e ddim delio gyda'n pechodau ni fel roedden ni'n haeddu,na talu'n ôl i ni am ein holl fethiant.