7 Dwedodd wrth Moses sut oedd e am i ni fyw,a dangosodd i bobl Israel beth allai ei wneud.
8 Mae'r ARGLWYDD mor drugarog a charedig;mor amyneddgar ac anhygoel o hael!
9 Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd,nac yn dal dig am byth.
10 Wnaeth e ddim delio gyda'n pechodau ni fel roedden ni'n haeddu,na talu'n ôl i ni am ein holl fethiant.
11 Fel mae'r nefoedd yn uchel uwch y ddaear,mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy'n ei barchu.
12 Mor bell ac ydy'r dwyrain o'r gorllewin,mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.
13 Fel mae tad yn caru ei blant,mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n ei barchu.