1 Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD!O ARGLWYDD, fy Nuw, rwyt ti mor fawr!Rwyt wedi dy wisgo ag ysblander ac urddas.
2 Mae mantell o oleuni wedi ei lapio amdanat.Ti wnaeth ledu'r awyr fel pabell uwch ein pennau.
3 Ti wnaeth osod trawstiau dy balas yn uwch fyth,a gwneud dy gerbyd o'r cymylaui deithio ar adenydd y gwynt.
4 Ti sy'n gwneud y gwyntoedd yn negeswyr i ti,a fflamau o dân yn weision.
5 Ti wnaeth osod y ddaear ar ei sylfeini,er mwyn iddi beidio gwegian byth.
6 Roedd y dyfroedd dwfn yn ei gorchuddio fel gwisg;roedd dŵr uwchben y mynyddoedd.
7 Ond dyma ti'n gweiddi, a dyma nhw'n ffoi,a rhuthro i ffwrdd rhag dy daranau swnllyd,