23 A dyna pryd mae pobl yn deffro,a mynd allan i weithio nes iddi nosi.
24 O ARGLWYDD, rwyt wedi creucymaint o wahanol bethau!Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth.Mae'r ddaear yn llawn o dy greaduriaid di!
25 Draw acw mae'r môr mawr sy'n lledu i bob cyfeiriad,a phethau byw na ellid byth eu cyfri ynddo –creaduriaid bach a mawr.
26 Mae'r llongau yn teithio arno,a'r morfil a greaist i chwarae ynddo.
27 Maen nhw i gyd yn dibynnu arnat tii roi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.
28 Ti sy'n ei roi a nhw sy'n ei fwyta.Ti'n agor dy law ac maen nhw'n cael eu digoni.
29 Pan wyt ti'n troi dy gefn arnyn nhw, maen nhw'n dychryn.Pan wyt ti'n cymryd eu hanadl oddi arnyn nhw,maen nhw'n marw ac yn mynd yn ôl i'r pridd.