28 Ti sy'n ei roi a nhw sy'n ei fwyta.Ti'n agor dy law ac maen nhw'n cael eu digoni.
29 Pan wyt ti'n troi dy gefn arnyn nhw, maen nhw'n dychryn.Pan wyt ti'n cymryd eu hanadl oddi arnyn nhw,maen nhw'n marw ac yn mynd yn ôl i'r pridd.
30 Ond pan wyt ti'n anadlu, maen nhw'n cael eu creu,ac mae'r tir yn cael ei adfywio.
31 Boed i ysblander yr ARGLWYDD gael ei weld am byth!Boed i'r ARGLWYDD fwynhau y cwbl a wnaeth!
32 Dim ond iddo edrych ar y ddaear, mae hi'n crynu!Pan mae'n cyffwrdd y mynyddoedd, maen nhw'n mygu!
33 Dw i'n mynd i ganu i'r ARGLWYDD tra bydda i byw!Moli fy Nuw ar gerddoriaeth tra bydda i.
34 Boed i'm myfyrdod ei blesio.Dw i'n mynd i fod yn llawen yn yr ARGLWYDD.