31 Boed i ysblander yr ARGLWYDD gael ei weld am byth!Boed i'r ARGLWYDD fwynhau y cwbl a wnaeth!
32 Dim ond iddo edrych ar y ddaear, mae hi'n crynu!Pan mae'n cyffwrdd y mynyddoedd, maen nhw'n mygu!
33 Dw i'n mynd i ganu i'r ARGLWYDD tra bydda i byw!Moli fy Nuw ar gerddoriaeth tra bydda i.
34 Boed i'm myfyrdod ei blesio.Dw i'n mynd i fod yn llawen yn yr ARGLWYDD.
35 Boed i bechaduriaid gael eu dinistrio o'r tir,ac i bobl ddrwg beidio â bod ddim mwy.Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD!Haleliwia!