5 Ti wnaeth osod y ddaear ar ei sylfeini,er mwyn iddi beidio gwegian byth.
6 Roedd y dyfroedd dwfn yn ei gorchuddio fel gwisg;roedd dŵr uwchben y mynyddoedd.
7 Ond dyma ti'n gweiddi, a dyma nhw'n ffoi,a rhuthro i ffwrdd rhag dy daranau swnllyd,
8 – cododd y mynyddoedd, suddodd y dyffrynnoeddac aeth y dŵr i'r lle roeddet ti wedi ei baratoi iddo.
9 Gosodaist ffiniau allai'r moroedd ddim eu croesi,i'w rhwystro rhag gorchuddio'r ddaear byth eto.
10 Ti sy'n gwneud i nentydd lifo rhwng yr hafnau,a ffeindio'i ffordd i lawr rhwng y mynyddoedd.
11 Mae'r anifeiliaid gwylltion yn cael yfed,a'r asynnod gwylltion yn torri eu syched.