8 – cododd y mynyddoedd, suddodd y dyffrynnoeddac aeth y dŵr i'r lle roeddet ti wedi ei baratoi iddo.
9 Gosodaist ffiniau allai'r moroedd ddim eu croesi,i'w rhwystro rhag gorchuddio'r ddaear byth eto.
10 Ti sy'n gwneud i nentydd lifo rhwng yr hafnau,a ffeindio'i ffordd i lawr rhwng y mynyddoedd.
11 Mae'r anifeiliaid gwylltion yn cael yfed,a'r asynnod gwylltion yn torri eu syched.
12 Mae adar yn nythu wrth eu hymylac yn canu yng nghanol y dail.
13 Ti sy'n dyfrio'r mynyddoedd o dy balas uchel.Ti'n llenwi'r ddaear â ffrwythau.
14 Ti sy'n rhoi glaswellt i'r gwartheg;planhigion i bobl eu tyfuiddyn nhw gael bwyd o'r tir –