1 Haleliwia!Diolchwch i'r ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni;Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
2 Pwy sy'n gallu dweud am yr holl bethau mawrmae'r ARGLWYDD wedi eu gwneud?Pwy sy'n gallu dweud gymaint mae e'n haeddu ei foli?
3 Y fath fendith sydd i'r rhai sy'n byw yn gywir,ac yn gwneud beth sy'n iawn bob amser!
4 Cofia fi, O ARGLWYDD, pan fyddi di'n helpu dy bobl;sylwa arna i pan fyddi di'n eu hachub nhw!
5 Dw i eisiau gweld y rhai rwyt ti wedi eu dewis yn llwyddo,dw i eisiau rhannu eu llawenydd nhw,a dathlu gyda dy bobl di.
6 Dŷn ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu yn dy erbyn di;dŷn ni wedi mynd ar gyfeiliorn, a gwneud drwg.
7 Wnaeth ein hynafiaid yn yr Aifft ddim gwerthfawrogi dy wyrthiau rhyfeddol.Dyma nhw'n anghofio popeth wnest ti yn dy gariad,a gwrthryfela yn erbyn y Duw Goruchaf wrth y Môr Coch.