10 Cadwodd nhw'n saff rhag y rhai oedd yn eu casáu,a'u rhyddhau o afael y gelyn.
11 Dyma'r dŵr yn llifo'n ôl dros y gelynion,gan adael dim un ar ôl yn fyw.
12 Roedden nhw'n credu beth ddwedodd e wedyn,ac yn canu mawl iddo!
13 Ond dyma nhw'n anghofio'r cwbl wnaeth e'n fuan iawn!Wnaethon nhw ddim disgwyl am ei arweiniad.
14 Roedden nhw'n ysu am gael cig yn yr anialwch,a dyma nhw'n rhoi Duw ar brawf yn y tir sych.
15 Rhoddodd iddyn nhw beth roedden nhw eisiau,ond yna eu taro nhw gyda chlefyd oedd yn eu gwneud yn wan.
16 Roedd pobl yn y gwersyll yn genfigennus o Moses,ac o Aaron, yr un roedd yr ARGLWYDD wedi ei gysegru.