12 Roedden nhw'n credu beth ddwedodd e wedyn,ac yn canu mawl iddo!
13 Ond dyma nhw'n anghofio'r cwbl wnaeth e'n fuan iawn!Wnaethon nhw ddim disgwyl am ei arweiniad.
14 Roedden nhw'n ysu am gael cig yn yr anialwch,a dyma nhw'n rhoi Duw ar brawf yn y tir sych.
15 Rhoddodd iddyn nhw beth roedden nhw eisiau,ond yna eu taro nhw gyda chlefyd oedd yn eu gwneud yn wan.
16 Roedd pobl yn y gwersyll yn genfigennus o Moses,ac o Aaron, yr un roedd yr ARGLWYDD wedi ei gysegru.
17 Agorodd y ddaear a llyncu Dathan,a gorchuddio'r rhai oedd gydag Abiram.
18 Cafodd tân ei gynnau yn eu plith nhw,a dyma'r fflamau yn llosgi'r bobl ddrwg hynny.