19 Wedyn dyma nhw'n gwneud eilun o darw yn Sinai,a phlygu i addoli delw o fetel!
20 Cyfnewid y Duw bendigedigam ddelw o ychen sy'n bwyta glaswellt!
21 Roedden nhw wedi anghofio'r Duw achubodd nhw!Anghofio'r Duw wnaeth bethau mor fawr yn yr Aifft –
22 y gwyrthiau rhyfeddol yn nhir Cham,a'r pethau anhygoel wrth y Môr Coch.
23 Pan oedd Duw yn bygwth eu dinistrio nhw,dyma Moses, y dyn oedd wedi ei ddewis,yn sefyll yn y bwlchac yn troi ei lid i ffwrdd.
24 Wedyn dyma nhw'n gwrthod y tir hyfryd,ac yn gwrthod credu yr addewid roddodd e.
25 Roedden nhw'n cwyno yn eu pebyllac yn gwrthod bod yn ufudd i'r ARGLWYDD.