26 Felly dyma Duw yn mynd ar ei lwy byddai'n eu lladd nhw yn yr anialwch!
27 Byddai'n gwasgaru eu disgynyddion i'r cenhedloedda'u chwalu nhw drwy'r gwledydd.
28 A dyma nhw'n dechrau addoli Baal-peor,a bwyta aberthau wedi eu cyflwyno i bethau marw!
29 Roedd beth wnaethon nhw'n gwneud Duw yn ddig,a dyma bla yn mynd ar led yn eu plith.
30 Yna dyma Phineas yn ymyrryd,a dyma'r pla yn stopio.
31 Cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw,a hynny am byth!
32 Dyma nhw'n digio Duw eto wrth Ffynnon Meribaa bu'n rhaid i Moses ddiodde o'u hachos.