32 Dyma nhw'n digio Duw eto wrth Ffynnon Meribaa bu'n rhaid i Moses ddiodde o'u hachos.
33 Roedden nhw wedi ei wneud e mor chwerwnes iddo ddweud pethau byrbwyll.
34 Wedyn, wnaethon nhw ddim dinistrio'r cenhedloeddfel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
35 Yn lle hynny dyma nhw'n cymysgu gyda'r cenhedloedda dechrau byw yr un fath â nhw.
36 Roedden nhw'n addoli eu duwiau,a dyma hynny'n gwneud iddyn nhw faglu.
37 Dyma nhw'n aberthu eu meibiona'u merched i gythreuliaid!
38 Ie, tywallt gwaed plant diniwed– gwaed eu meibion a'u merched eu hunain! –a'u haberthu nhw i eilun-dduwiau Canaan.Roedd y tir wedi ei lygru gan y gwaed gafodd ei dywallt.