39 Roedd beth wnaethon nhw'n eu llygru nhw;roedden nhw'n ymddwyn yn anffyddlon.
40 Felly dyma'r ARGLWYDD yn gwylltio'n lân hefo nhw!Roedd yn ffieiddio ei bobl ei hun!
41 Dyma fe'n eu rhoi nhw yn nwylo'r cenhedloedd;a gadael i'w gelynion eu rheoli.
42 Roedd gelynion yn eu gormesu;roedden nhw dan eu rheolaeth nhw'n llwyr!
43 Er bod Duw wedi eu hachub nhw dro ar ôl tro,roedden nhw'n dal yn ystyfnig ac yn tynnu'n groes.Aeth pethau o ddrwg i waeth o achos eu drygioni.
44 Ond pan oedd Duw'n gweld eu bod nhw mewn trybiniac yn eu clywed nhw'n gweiddi am help,
45 roedd yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e iddyn nhwac yn ymatal o achos ei gariad atyn nhw.