8 Ac eto achubodd nhw, er mwyn ei enw da,ac er mwyn dangos ei nerth.
9 Gwaeddodd ar y Môr Coch a'i sychu!Yna eu harwain drwy'r dyfnder, fel petai'n dir anial.
10 Cadwodd nhw'n saff rhag y rhai oedd yn eu casáu,a'u rhyddhau o afael y gelyn.
11 Dyma'r dŵr yn llifo'n ôl dros y gelynion,gan adael dim un ar ôl yn fyw.
12 Roedden nhw'n credu beth ddwedodd e wedyn,ac yn canu mawl iddo!
13 Ond dyma nhw'n anghofio'r cwbl wnaeth e'n fuan iawn!Wnaethon nhw ddim disgwyl am ei arweiniad.
14 Roedden nhw'n ysu am gael cig yn yr anialwch,a dyma nhw'n rhoi Duw ar brawf yn y tir sych.