1 O Dduw, yr un dw i'n ei addoli,paid diystyru fi.
2 Mae pobl ddrwg a thwyllodrusyn siarad yn fy erbyn i,ac yn dweud celwydd amdana i.
3 Maen nhw o'm cwmpas ym mhobman gyda'u geiriau cas;yn ymosod arna i am ddim rheswm.
4 Dw i'n dangos cariad, ac maen nhw'n cyhuddo!Ond dw i'n dal i weddïo drostyn nhw.
5 Maen nhw'n talu drwg am dda,a chasineb am gariad.
6 “Anfon rywun drwg i ymosod arno!” medden nhw,“Gwna i rywun ei gyhuddo a mynd ag e i'r llys!
7 Anfon e i sefyll ei brawf,a chael ei ddedfrydu'n euog!Ystyria ei weddi yn bechod.