14 Boed i'r ARGLWYDD gofio drygioni ei gyndadau,a boed i bechod ei fam byth ddiflannu.
15 Boed i'r ARGLWYDD eu cofio nhw bob amser,ac i'w henwau gael eu torri allan o hanes!
16 Dydy e erioed wedi dangos cariad!Mae wedi erlid pobl dlawd ac anghenus,a gyrru'r un sy'n ddigalon i'w farwolaeth.
17 Roedd e wrth ei fodd yn melltithio pobl– felly melltithia di fe!Doedd e byth yn bendithio pobl– cadw fendith yn bell oddi wrtho!
18 Roedd melltithio iddo fel gwisgo ei ddillad!Roedd fel dŵr yn ei socian,neu olew wedi treiddio i'w esgyrn.
19 Gwna felltith yn glogyn iddo'i gwisgogyda belt yn ei rhwymo bob amser.”
20 Boed i'r ARGLWYDD dalu yn ôl i'm cyhuddwyr,y rhai sy'n dweud y pethau drwg yma amdana i.