20 Boed i'r ARGLWYDD dalu yn ôl i'm cyhuddwyr,y rhai sy'n dweud y pethau drwg yma amdana i.
21 Ond nawr, O ARGLWYDD, fy meistr,gwna rywbeth i'm helpu, er mwyn dy enw da.Mae dy gariad ffyddlon mor dda, felly achub fi!
22 Dw i'n dlawd ac yn anghenus,ac mae fy nghalon yn rasio o achos fy helbul.
23 Dw i'n diflannu fel cysgod ar ddiwedd y dydd.Dw i fel locust yn cael ei chwythu i ffwrdd.
24 Mae fy ngliniau yn wan ar ôl mynd heb fwyd;dw i wedi colli pwysau, ac yn denau fel ystyllen.
25 Dw i'n ddim byd ond testun sbort i bobl!Maen nhw'n edrych arna i ac yn ysgwyd eu pennau.
26 Helpa fi, O ARGLWYDD, fy Nuw;achub fi am fod dy gariad mor ffyddlon.