25 Dw i'n ddim byd ond testun sbort i bobl!Maen nhw'n edrych arna i ac yn ysgwyd eu pennau.
26 Helpa fi, O ARGLWYDD, fy Nuw;achub fi am fod dy gariad mor ffyddlon.
27 Wedyn bydd pobl yn gwybod mai dyna wyt ti'n wneud,ac mai ti, O ARGLWYDD, sydd wedi fy achub i.
28 Maen nhw'n melltithio, ond bendithia di fi!Wrth iddyn nhw ymosod, drysa di nhw,a bydd dy was yn dathlu!
29 Bydd y cyhuddwyr yn cael eu cywilyddio,byddan nhw'n gwisgo embaras fel clogyn.
30 Ond bydda i'n canu mawl i'r ARGLWYDD;ac yn ei ganmol yng nghanol y dyrfa fawr,
31 Mae e'n sefyll gyda'r un sydd mewn angen,ac yn ei achub o afael y rhai sy'n ei gondemnio.