7 Anfon e i sefyll ei brawf,a chael ei ddedfrydu'n euog!Ystyria ei weddi yn bechod.
8 Paid gadael iddo gael byw'n hir!Gad i rywun arall gymryd ei waith.
9 Gwna ei blant yn amddifad,a'i wraig yn weddw!
10 Gwna i'w blant grwydro o adfeilion eu cartref,i gardota am fwyd.
11 Gwna i'r un mae mewn dyled iddo gymryd ei eiddo i gyd,ac i bobl ddieithr gymryd ei gyfoeth!
12 Paid gadael i rywun fod yn garedig ato;na dangos tosturi at ei blant!
13 Dinistria ei ddisgynyddion i gyd;gwna i enw'r teulu ddiflannu mewn un genhedlaeth!