1 Haleliwia!Mae bendith fawr i'r un sy'n parchu'r ARGLWYDDac wrth ei fodd yn gwneud beth mae'n ei ddweud.
2 Bydd ei ddisgynyddion yn llwyddiannus;cenhedlaeth o bobl dduwiol yn cael eu bendithio.
3 Bydd e'n gyfoethog,a bob amser yn byw'n gywir.
4 Mae golau yn disgleirio yn y tywyllwch i'r duwiol;y sawl sy'n garedig, yn drugarog ac yn gwneud beth sy'n iawn.
5 Mae pethau'n mynd yn dda i'r un sy'n hael wrth fenthygac yn rheoli ei fusnes yn gyfiawn.
6 Fydd dim byd yn tarfu arno;bydd pobl yn cofio ei fod wedi byw'n gywir.