3 Bydd e'n gyfoethog,a bob amser yn byw'n gywir.
4 Mae golau yn disgleirio yn y tywyllwch i'r duwiol;y sawl sy'n garedig, yn drugarog ac yn gwneud beth sy'n iawn.
5 Mae pethau'n mynd yn dda i'r un sy'n hael wrth fenthygac yn rheoli ei fusnes yn gyfiawn.
6 Fydd dim byd yn tarfu arno;bydd pobl yn cofio ei fod wedi byw'n gywir.
7 Does ganddo ddim ofn newyddion drwg;mae e'n trystio'r ARGLWYDD yn llwyr.
8 Mae e'n dawel ei feddwl, ac yn ofni dim;mae'n disgwyl gweld ei elynion yn syrthio yn y diwedd.
9 Mae e'n rhannu ac yn rhoi yn hael i'r tlodion;bydd pobl yn cofio ei haelioni bob amser.Bydd yn llwyddo ac yn cael ei anrhydeddu.