1 Pan aeth pobl Israel allan o'r Aifft –pan adawodd teulu Jacob y wladlle roedden nhw'n siarad iaith estron –
2 daeth Jwda yn dir cysegredig,ac Israel yn deyrnas iddo.
3 Dyma'r Môr Coch yn eu gweld nhw'n dodac yn symud o'r ffordd.Dyma lif yr Iorddonen yn cael ei ddal yn ôl.
4 Roedd y mynyddoedd yn neidio fel hyrddod,a'r bryniau yn prancio fel ŵyn.
5 Beth wnaeth i ti symud o'r ffordd, fôr?Beth wnaeth dy ddal di yn ôl, Iorddonen?
6 Beth wnaeth i chi neidio fel hyrddod, fynyddoedd?Beth wnaeth i chi brancio fel ŵyn, fryniau?