1 Nid ni, O ARGLWYDD, nid ni –ti sy'n haeddu'r anrhydedd i gyd,am ddangos y fath gariad a ffyddlondeb.
2 Pam dylai pobl y cenhedloedd ddweud,“Ble mae eu Duw nhw nawr?”
3 Y gwir ydy mae Duw yn y nefoedd,ac mae'n gwneud beth bynnag mae eisiau!
4 Dydy eu heilunod nhw'n ddim ond arian ac aurwedi eu siapio gan ddwylo dynol.
5 Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad;llygaid, ond allan nhw ddim gweld;
6 clustiau, ond allan nhw ddim clywed;trwynau, ond allan nhw ddim arogli;
7 dwylo, ond allan nhw ddim teimlo;traed, ond allan nhw ddim cerdded;a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn!