11 Chi sy'n addoli'r ARGLWYDD, credwch yn yr ARGLWYDD!Fe sy'n eich helpu chi ac yn eich amddiffyn chi.
12 Mae'r ARGLWYDD yn cofio amdanon ni,a bydd yn ein bendithio ni –Bydd yn bendithio pobl Israel;Bydd yn bendithio teulu Aaron;
13 Bydd yn bendithio'r rhai sy'n addoli'r ARGLWYDD,yn ifanc a hen.
14 Boed i'r ARGLWYDD roi plant i chi;ie, i chi a'ch plant hefyd!
15 Boed i'r ARGLWYDD, wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear,eich bendithio chi!
16 Yr ARGLWYDD sydd piau'r nefoedd,ond mae wedi rhoi'r ddaear yng ngofal y ddynoliaeth.
17 Dydy'r meirw ddim yn gallu moli'r ARGLWYDD,maen nhw wedi mynd i dawelwch y bedd.