4 Dydy eu heilunod nhw'n ddim ond arian ac aurwedi eu siapio gan ddwylo dynol.
5 Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad;llygaid, ond allan nhw ddim gweld;
6 clustiau, ond allan nhw ddim clywed;trwynau, ond allan nhw ddim arogli;
7 dwylo, ond allan nhw ddim teimlo;traed, ond allan nhw ddim cerdded;a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn!
8 Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw,a'r bobl sydd yn eu haddoli nhw,yn troi'n debyg iddyn nhw!
9 Israel, cred di yn yr ARGLWYDD!Fe sy'n dy helpu di ac yn dy amddiffyn di.
10 Chi offeiriaid, credwch yn yr ARGLWYDD!Fe sy'n eich helpu ac yn eich amddiffyn chi.